Silff Ffenest Llechan

Fframiwch eich ffenestri gyda sliffoedd llechi

Wedi’u gwneud i unrhyw siâp neu faint

Mae pob silff yn cael ei chynhyrchu yn ôl eich mesuriadau, mae gwahanol drwch ar gael gyda 30mm yn safonol.

Cynnyrch Naturiol

‘Rydym yn cynnig llechi Cymreig neu o Frasil o ansawdd uchel, mae pob silff yn cynnwys gwead amrywiol gan greu darn unigryw.

Silffoedd Mewnol

Mantais o gael llechan yw, yn wahanol i silffoedd pren nid yw llechi yn chwyddo na llwydo pan fydd tamprwydd o gwmpas y ffenest. Mae silff lechan mewnol yn rhoi gorffeniad deiniadol i unrhyw ystafell, ac yn hawdd i’w chadw’n lân wrth olchi gyda dŵr a sebon o dro i dro.

Silffoedd Allanol

Mae silffoedd llechi allanol efo’r un manteision ac oherwydd fod llechan yn gwrth sefyll tywydd garw, byddant yn para am oes.

Mae pob silff wedi’i wneud i archeb yn ein gweithdy ac wrth weithio gyda’n cwsmeriaid byddwn yn creu darnau sy’n cyd fynd â sdeil eu cartref.

Dewis sy’n rhydd o gynnal a chadw i’ch cartref

Yn gwneud beth da ni’n ei wneud yn orau

MADE TO MEASURE - PREMIUM QUALITY

Cais am ddyfynbris

Rhowch ychydig o wybodaeth am eich silffoedd a byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion pellach.