Plac Coffa

Creu Cof o Garreg Naturiol

Teyrnged wedi’i chreu 0 garreg naturiol

Mae ein placiau coffa neu plac amlosgi wedi eu creu o gerrig naturiol sy’n draddodiadol ac yn adnabyddus am eu harddwch unigryw. Yn addas ar gyfer gerddi coffa, mae’r lechan Gymreig neu Calchfaen yn berffaith i greu man tawel i drysori atgofion am flynyddoedd i ddod.

Caiff pob plac ei wneud i archeb yn ein gweithdy ac maent yn dod mewn amryw o feintiau a dyluniadau, gan weithio’n agos gyda’n cwsmeriaid ‘rydym yma i’ch cynghori i ddylunio’r arysgrif gyda gofal a pharch.

Ein nod yw creu teyrnged gwirioneddol bersonol sy’n adlewyrchu bywyd a chof eich anwylyd.

Grey Slate square cremation plaque with engraving

TEYRNGED I ANRHYDEDDU BYWYD UNIGRYW

Cadw atgofion am byth

Cwestiynau ac Atebion

Pa ddeunyudd sydd ar gael?

Mae placiau ar gael mewn llechan Gymreig, Calchfaen Kilkenny neu Calchfaen Nabresina o ansawdd uchel. Cerrig naturiol sy’n draddodiadol ac yn adnabyddus am eu harddwch unigryw.

Faint o eiriau alla i ei gynnwys?

Mae hyn yn dibynnu ar faint y plac a’r dyluniad, ond mae digon le ar gyfer enw, dyddiad a teyrnged bychan. ‘Rydym yma i’ch arwain drwy pob cam o’r broses.

Beth yw maint y placiau?

Mae cerrig amlosgi neu carreg goffa yn dod mewn gwahanol faint ac fel arfer wedi eu gosod yn wastad ar y llawr. Os ydych yn chwilio am dyluniad unigryw, cysylltwch â ni i drafod.