CALL US ON: 07810 340628

Cerrig Beddi a Chofebion

Cofebau wedi’u crefftio gyda gofal a pharch

Yma i helpu

Gallwn greu siap a maint pwrpasol i’ch dewis, cysylltwch â ni i drafod.

Silhouette of a person sitting and hammering a piece of wood on a workbench.

CHECKED OGEE

TUDOR ARC

Silhouette of a person sitting and playing a guitar inside an arched window.
Silhouette of a person sitting and reading a book or device against a dark background.
Silhouette of a person sitting in a contemplative pose inside a dark archway or doorway.

SQUARE

Silhouetted figure sitting on a bench inside a rounded arch window

FLAT ELLIPSE

Silhouette of a person sitting on a bench, fishing with a fishing rod.

HIGH ELLIPSE

Silhouette of a person sitting on a bench in a dark, rainy environment with a full moon in the sky.

FULL ARC

Silhouette of a person sitting on a bench, reading a book under an archway.

SEGMENTED ARC

Silhouette of a person sitting on a bench, reading a book, against a dark background.

OGEE

Yma i gyd weithio gyda’n cwsmeriaid i sicrhau fod pob teyrnged personol yn cael ei wireddu.

Mewn cyfnod anodd, ‘rydym yma i’ch helpu i greu teyrnged barhaol i’ch anwylyd. Mae pob cofeb yn adrodd stori bywyd trwy ddewis deunyddiau, geiriau ac ysgyrthu’n oflaus. ‘Rydym yma i’ch arwain drwy pob cam o’r broses ac yn deall y pwysigrwydd o gyfuno ansawdd a fforddiadwy.

‘Rydym yn darparu gwasanaethau gosod cofebion yn broffesiynol gyda gofal a pharch, gan gydymffurfio a holl reolau a safonau’r fynwent. Mae ein gwasanaeth yn cynnwys gosod cofebion newydd, ychwanegu arysgrifau ac adnewyddu a thrwsio cofebion presennol.

Cerrig Beddi a Chofebion

‘Rydym yn dylunio a chreu’r cerrig beddi i archeb yn ein gweithdy drwy gyd weithio a’ch dymuniad.

Arysgrifau Personol

Mae’r arysgrifau wedi’u hysgythru’n ofalus i adlewyrchu bywyd, cymeriad a chof eich anwylyd. Gallwn eich arwain i ddewis geiriad, ffontiau a threfniant.

Gosod yn Broffesiynol

Mae ein tîm profiadol yn gosod yn broffesiynol gyda gofal a pharch, gan gydymffurfio a holl reolau a safonau’r fynwent.

Welsh slate headstone with natural finish edges

Carreg Goffa o Lechan

Llechan Gymreig

Mae harddwch naturiol y lechan Gymreig yn gefndir gwych ar gyfer cerfiadau manwl. Gyda apel esthetig unigryw mae gan y lechan Gymreig sawl mantais yn cynnwys ôl troed amgylcheddol isel oherwydd ffynonellau lleol, gall wrthsefyll tywydd garw ac mae’n hawdd i’w chynnal a’i chadw.

Llechan Wyddelig

Fel rhan o’n casgliad o lechi Celtaidd, mae’r lechan Valentia o Iwerddon yn cael ei hystyried yn berthynas bell i’r lechen Gymreig. Gyda lliw llwyd golau a naws ysgafn o liw grug, mae ganddi wead a chymeriad ei hun, gan wneud pob cofeb yn wirioneddol unigryw.

Gravestone of Mary Elizabeth Matthews with her birth and death dates, and information about her family and husband's resting place.

Carreg Goffa o Galchfaen

Calchfaen Nabresina

Calchfaen olau o’r Eidal yw’r Nabresina, mae ei lliw meddal a thawel yn creu teimlad o heddwch a symlrwydd. Mae’n ddewis perffaith ar gyfer cerrig beddi, gan greu cofeb barhaol i gofio am anwylyd.

Calchfaen Kilkenny

Gyda lliw glas lwyd mae’r Galchfaen Celtaidd Kilkenny yn cydweddu’n gytun â’r lechen Gymreig. Mae ei harddwch naturiol yn cynnig cefndir delfrydol ar gyfer creu cofeb teilwng.

Dewis y gorau i anrhydeddu pob atgof

WELSH DARK BLUE GREY
Chwarel Cwt y Bugail, Blaenau Ffestiniog

WELSH HARD GREY
Chwarel y Penrhyn, Bethesda

VALENTIA SLATE
Ynys Valentia, Iwerddon

CELTIC KILKENNY LIMESTONE
Kilkenny, Iwerddon

Close-up of Nabresina Limestone a light coloured stone with subtle texture and pattern. LLD Slate Ltd

NABRESINA LIMESTONE
Gogledd Eidal

RHOI TEYRNGED DRWY GREFTWAITH

Cofebion ag Ansawdd - Gwneud i Archeb - Gosod yn broffesiynol

Mae pob cofeb wedi’i gwneud gyda gofal a pharch yn ein gweithdy gan ddefnyddio cerrig naturiol o ansawdd gorau. Boed yn chwilio am garreg traddodiadol neu unigryw, gyda crefftwaith arbenigol gallwn siapio, ysgyrthu a gosod eich cofeb yn unol a’ch dymuniad i greu teyrnged bersonol i ddathlu bywyd anwyliaid.

Rydym yn falch o gydweithio gyda seiri maen dros y wlad, ac yn hapus i argymell gweithwyr proffesiynol sy’n arbenigwyr mewn cerrig coffa gan greu cerfiadau manwl a hardd i ategu pob cofeb unigryw.